Ffordd newydd o ddarparu Gofal Cymdeithasol


Yma yng Ngheredigion, rydym ar daith gyffrous wrth i ni gyflwyno model gofal cymdeithasol Trwy Oedran Lles sy’n rhyddhau ein timau i wneud y gwahaniaeth cadarnhaol y daethant i ofal cymdeithasol ar ei gyfer. Nawr, rydym yn chwilio am fwy o bobl i ymuno â ni ar y daith hon.

Archwiliwch swyddi

Pwy ydym ni?

Mae ein taith yn wahanol i I un pawb arall. Fel gwasanaeth gofal cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar gryfderau a chanlyniadau, rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn derbyn y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Rydym yn credu mewn gweithio gyda’n gilydd i helpu plant, pobl ifanc ac oedolion i ddatblygu sgiliau a’r gwytnwch sy’n para am oes fel eu bod yn medru ymdopi’n annibynnol yn well.

A ninnau eisoes wedi gwneud dechrau gwych i wireddu ein gweledigaeth, rydym nawr yn chwilio am weithwyr cymdeithasol plant ac oedolion brwdfrydig, creadigol ac angerddol i ymuno â’n timau, ac rydym yn gobeithio y gallech chi fod yn un ohonyn nhw.

Yn gyfnewid am ymuno â ni, byddwn yn cynnig amgylchedd gwaith lle cewch eich gwerthfawrogi, eich cefnogi a'ch grymuso i ragori yn eich rôl. Man lle mae cyfleoedd datblygu gyrfa rhagorol, buddion gwych i weithwyr a thimau cefnogol cryf.

Pam ymuno â ni?

Yng Ngheredigion, rydym am i'ch gyrfa gofal cymdeithasol fod yn un gwerth chweil. Un sy'n cynnig her broffesiynol i chi heb deimlo eich bod wedi'ch gorlethu ac sy'n eich galluogi i wneud yr hyn y daethoch i ofal cymdeithasol i'w wneud - gwnewch wahaniaeth cadarnhaol.

Mae hefyd yn helpu bod llawer o fanteision bach (a mawr) i weithwyr, a bod Ceredigion yn lle gwych i fyw.

Image 2023 06 21 T10 31 23

Boddhad swydd

Gan ein bod yn wasanaeth sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, mae gennych gyfle i weithio’n fwy creadigol i alluogi unigolion a theuluoedd i ddod yn fwy gwydn.

Image 2023 06 21 T10 31 23

Cynnydd gyrfa

Gyda llwybrau rhagorol ar gyfer dilyniant a gweithio mewn gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar llesiant gydol oes, ni fyddwch byth yn brin o gyfleoedd i ddatblygu’ch gyrfa.

Image 2023 06 21 T10 31 23

Caru lle rydych chi'n byw

Fel un o’r “llefydd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddo,” mae Ceredigion yn cynnig cyfuniad cyfeillgar o gymunedau dwyieithog, diwylliant fywiog, arfordiroedd a chefn gwlad godidog.

Image 2023 06 21 T10 31 23

Cael eich gwobrwyo am eich gofal

I ddiolch i chi, mae gennym becyn buddion i weithwyr rhagorol; gan gynnwys gweithio hyblyg, cymorth lles, gostyngiadau lleol a chyflogau hael, gwyliau a chyfraniadau pensiwn.

Dewch i gwrdd â'n tîm arwain cefnogol

Mae ein huwch arweinwyr yn cymryd amser i wrando, arsylwi, cefnogi ac arwain.

  • Taniya Jarrams
    Taniya Jarrams

    Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Brysbennu ac Asesu Integredig

  • John Callow
    John Callow

    Rheolwr Corfforaethol - Gofal wedi'i Gynllunio

  • Elizabeth Upcott
    Elizabeth Upcott

    Rheolwr Corfforaethol - Diogelu

  • Nerys Lewis
    Nerys Lewis

    Rheolwr Corfforaethol - Gwasanaethau Uniongyrchol

  • Emma Clarke
    Emma Clarke

    Rheolwr Corfforaethol - Cefnogaeth Estynedig

  • Artboard Created with Sketch.

    ​"Y peth sy'n sefyll allan i mi wrth weithio yng Ngheredigion yw'r diwylliant; rydym yn deulu i raddau helaeth. Rydym wedi datblygu perthnasoedd gwaith da gydag asiantaethau eraill a phartïon trydydd sector, sef un o’...

    Lisa Jones

    Gweithiwr Cymdeithasol , Cyngor Sir Ceredigion

  • Artboard Created with Sketch.

    ​“Yr hyn rydw i wir yn ei garu am fod yn weithiwr cymdeithasol yng Ngheredigion yw bod pob diwrnod yn wahanol, ac mae’r lleoliad yn wych. Rwy'n caru'r mynyddoedd a'r môr. Cyn symud, roeddwn i'n ymarfer yn Ninas Hull, ...

    John Callow

    Rheolwr Corfforaethol, Gofal wedi'i Gynllunio , Cyngor Sir Ceredigion

  • Artboard Created with Sketch.

    ​"Yr elfen fwyaf gwerth chweil am fy rôl yw gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd person, waeth beth fo'i oedran. Hefyd, y fraint sydd gennym o fod yn rhan o daith bywyd pob unigolyn, o’r ifanc ar ddechrau eu hoes i’r genh...

    Nerys Lewis

    Rheolwr Corfforaethol, Gwasanaethau Uniongyrchol , Cyngor Sir Ceredigion

Ymunwch â ni ar ein taith

Fel Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, hoffwn ddiolch i chi am roi o’ch amser i ystyried ymuno â’n gwasanaeth gofal cymdeithasol. 

Wrth fabwysiadu model Llesiant Gydol Oes a newid y ffordd yr ydym yn meddwl, yn gweithio a’r ffyrdd yr ydym yn darparu gwasanaethau, rydym yn mynd trwy drawsnewidiad uchelgeisiol.

Os ydych chi'n ffynnu mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, os oes gennych awydd cryf i fod yn fwy creadigol ac arloesol yn eich ymarfer, ac yn angerddol am wneud gwahaniaeth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Eifion Evans - Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion