Banner Default Image

Gyrfaoedd

Eich Gyrfa yng Ngheredigion

Os hoffech deimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, eich cefnogi a'ch grymuso i ragori yn eich rôl fel gweithiwr cymdeithasol, Ceredigion yw'r lle i fod. Rydym yn cynnig cyfleoedd datblygu rhagorol, buddion gwych i weithwyr, a thîm hynod gefnogol.

Sut olwg sydd ar yrfa gwaith cymdeithasol gyda ni?

Er mwyn helpu pobl i ddatblygu sgiliau a gwydnwch i ymdopi’n dda â’r pwysau y maent yn ei wynebu, rydym yn cydnabod bod yn rhaid inni gefnogi ein gilydd a hybu datblygiad proffesiynol.

Pan rydych yn â ni, y peth cyntaf y byddwch yn sylwi arno yw na fyddwch byth yn brin o gyfleoedd i ddatblygu a thyfu. Bydd gennych fynediad i hyfforddiant sy’n eich cefnogi i weithio’n greadigol gydag unigolion a theuluoedd i’w helpu i wneud dewisiadau a phenderfyniadau ystyrlon a rhoi’r sgiliau iddynt ymdopi â’r heriau y maent yn eu hwynebu.

Gyda'n gilydd, ein nod yw mynd i'r afael ag achosion sylfaenol heriau a gwendidau

Mae’n amser cyffrous i ymuno â ni wrth i ni ymrwymo i ddull cyngor cyfan sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol heriau a gwendidau i bobl, a’r rhesymau pam maen nhw’n dod i gysylltiad â ni.

I gyflawni hyn, rydym yn canolbwyntio ar:

Newid trawsnewidiol mewn diwylliant ac ymarfer
Ymyrraeth gynnar ac atal cryf
Symud oddi wrth ganolbwyntio ar yr unigolyn a'i heriau ar ei ben ei hun
Gwaith partneriaeth cryf
Darparu'r gefnogaeth gywir ar yr amser iawn gan ddefnyddio Dull Tîm o Amgylch y Teulu/Oedolyn
Llai o ddyblygu adnoddau/capasiti a gwneud y mwyaf o'r hyn sydd ar gael yn barod
Cynyddu gwytnwch unigolion yn eu cymuned
Dulliau poblogaeth gyfan sy'n hybu annibyniaeth ac yn lleihau dibyniaeth ar ofal a chymorth a reolir

Lle gwych i ddysgu a datblygu

Rydym am i chi gael pob cyfle i gyflawni eich llawn botensial, yn awr ac yn y dyfodol. Dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i’ch cefnogi chi i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad fel eich bod chi’n teimlo’n fodlon.

Gweld swyddi gwaith cymdeithasol

Fe welwch yn gyflym fod yna gyfleoedd gwych ar gyfer datblygiad personol trwy ein rhaglenni dysgu a datblygu craidd, sy’n cynnwys:

Banner Default Image

Modiwlau hyfforddiant personol

Blank

Cyrsiau e-ddysgu

Blank

Digwyddiadau hyfforddi cynhwysfawr

Blank

Dysgu rhwng cymheiriaid a rhannu gwybodaeth

Camu i rôl rheoli

Gall rôl rheolwr gwaith cymdeithasol roi boddhad mawr; cefnogi eraill o fewn eich tîm i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, myfyrio ar ymarfer wrth oruchwylio, cefnogi gweithwyr cymdeithasol i ddatblygu a thyfu, ac adeiladu timau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau lle gall ymarfer gwaith cymdeithasol cadarnhaol ffynnu.

Nid oes byth unrhyw bwysau i wneud hynny, ond os hoffech gamu i rôl rheoli gwaith cymdeithasol, byddwch yn cael eich cefnogi’n llawn i wneud hynny drwy’r gweithgareddau canlynol:

Cwrs Darpar Reolwr.
Eich helpu chi i ddatblygu'r sgiliau i fod yn rheolwr gwybodus, teg a grymusol.

Rhaglen Rheolwyr Ceredigion.
Rhaglen 4 diwrnod yn ymdrin â holl agweddau craidd rheolaeth ac arweinyddiaeth lwyddiannus.

Diweddariadau rheolwyr yn rheolaidd.
Gan gynnwys newyddion rheolwr misol a diweddariad blynyddol i reolwyr.

Cyfleoedd datblygu ychwanegol.
Cyfleoedd i ddatblygu ymhellach ac ennill cymhwyster ILM uwch a rheoli prosiect.

Pecyn Cymorth y Rheolwr.
Mynediad uniongyrchol i gyfres o adnoddau sydd wedi'u cynllunio i wella'ch sgiliau a'ch gwybodaeth fel rheolwr.

Mentora a hyfforddi.
Rhoi cyfle i chi ddysgu gan reolwyr eraill a lle i fyfyrio ar eich rheolaeth.

Edrych i adleoli?

​Os ydych am symud i Geredigion, ni allwn aros i’ch croesawu. Mae gennym becyn adleoli gwych (hyd at £8,000), hyfforddiant strwythuredig ar Ddiogelu yng Nghymru, a thîm hynod gefnogol.

Mae Ceredigion yn gymuned ddwyieithog (yn siarad Cymraeg a Saesneg). Os nad ydych yn siarad Cymraeg, nid yw hyn yn broblem. Nid ydym yn gweld iaith fel rhwystr ac rydym wedi croesawu digon o weithwyr cymdeithasol o Loegr, yr Alban, ledled Cymru a thramor.

Fodd bynnag, os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg, byddwn yn eich cefnogi’n llwyr i wneud hynny gyda gwahanol fformatau hyfforddi i weddu i’ch steil dysgu.

Ymunwch â ni ar ein taith

​Os ydych chi’n ymarferydd neu reolwr gwaith cymdeithasol profiadol sydd ag awydd cryf i weithio’n greadigol yn eich practis, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Archwiliwch y rolau sydd gennym ar hyn o bryd – mae gennym gyfleoedd ar draws gofal cymdeithasol plant ac oedolion.