Banner Default Image

Amdanom ni

Galluogi canlyniadau gwell

Os ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sy’n chwilio am newid llwyr yn eich golygfeydd a’r rhyddid i weithio’n fwy creadigol yn eich ymarfer, efallai mai Ceredigion yw’r lle delfrydol i chi.

Banner Default Image

Ein hymagwedd at ofal cymdeithasol

Rydym ar daith drawsnewidiol ac yn anelu at osod meincnod newydd ar gyfer darparu gofal cymdeithasol. Rydym wedi gwrando ar yr hyn sydd ei angen ar blant, pobl ifanc ac oedolion Ceredigion i allu ymateb yn well i heriau ac i meithrin gwytnwch. Ffocws ein model Llesiant Gydol Oes yw gwneud yn siŵr bod pob dinesydd yn cael mynediad at ystod o raglenni ac ymyriadau sy’n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol, gan dargedu’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf. Rydym yn symud i ffwrdd o ganolbwyntio ar yr unigolyn a’i heriau ar ei ben ei hun i gymryd agwedd fwy cyfannol.

Mae hyn yn golygu cryfhau teuluoedd fel y gall plant a phobl ifanc aros yn ddiogel gyda'u teulu a galluogi oedolion i fyw'n annibynnol yn eu cymuned eu hunain. Yn bwysicaf oll, mae hyn hefyd yn golygu ein bod yn gallu targedu ein cymorth yn well at y rhai sydd mewn perygl o gamdriniaeth, niwed ac esgeulustod.

Image 2023 06 23 T11 33 26

Pam ymuno â ni ar ein taith?

Fel gwasanaeth, rydym yn canolbwyntio ar “ddatrys problemau a pheidio â’u cynnwys”. Am y rheswm hwn, mae ein timau’n cael eu cefnogi i ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar gryfderau a gweithio’n greadigol o fewn eu hymarfer. Os oes gan un o'n gweithwyr cymdeithasol syniad newydd ar gyfer cefnogi pobl neu wella cyfathrebu â phartneriaid, byddwn bob amser am ei glywed. Wedi’r cyfan, mae ein model Llesiant Gydol Oed yn eiddo i bawb.

Os daethoch at waith cymdeithasol i gefnogi pobl i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau eu hunain, Ceredigion yw'r lle i chi.

Wrth i ni barhau i ddatblygu ein gwasanaethau, ni fyddwch byth yn brin o gyfleoedd gyrfa, boed hynny’n symud i swydd uwch neu’n gam i faes ymarfer arbenigol.

Dysgu mwy am yrfa yng Ngheredigion

Ein gweledigaeth

Mae ein gweledigaeth yn cynnwys tair elfen. Sicrhau y bydd pob plentyn, person ifanc ac oedolyn yng Ngheredigion yn gallu cyrraedd eu llawn botensial. Sicrhau mynediad teg i wasanaethau cyffredinol rhagorol a rhai wedi'u targedu sy'n diogelu ac yn cefnogi iechyd a lles pob dinesydd. Datblygu sgiliau a gwydnwch a fydd yn para am oes a galluogi unigolion i ymdopi'n dda â'r heriau a'r pwysau y maent yn eu hwynebu.

Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth, mae ein model gofal cymdeithasol a llesiant gydol oes yn canolbwyntio ar sicrhau bod pobl yn cael y cymorth cywir, ar yr adeg gywir, sy’n golygu:

Image 2023 06 23 T11 33 26

Gwella sgiliau ein timau i weithio ar y cyd i wella’r arweiniad a’r cymorth sydd ar gael i helpu unigolion a theuluoedd i ddatblygu sgiliau newydd.

Image 2023 06 23 T11 33 26

Gweithio’n greadigol gyda’r bobl rydym yn eu cefnogi a’n partneriaid i ddod yn safon feincnod ar gyfer rhagoriaeth mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt.

Image 2023 06 23 T11 33 26

Diogelu a meithrin y rhai mwyaf agored i niwed a gwneud yn siŵr bod y rhai dan anfantais a’r rhai sy’n wynebu heriau yn cael eu cefnogi.

Image 2023 06 23 T11 33 26

Darparu gwasanaeth sy’n seiliedig ar gryfderau ac sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan gefnogi unigolion a theuluoedd i adeiladu ar eu cryfderau a dod yn fwy gwydn.

Y ffordd rydym yn gweithio

Image 2023 06 23 T11 33 26

Rhoi llais, dewis a rheolaeth.
Rydyn ni’n cefnogi pobl i wneud dewisiadau a phenderfyniadau sy’n ystyrlon iddyn nhw, ac yn eu helpu i fynegi pwy ydyn nhw a beth maen nhw eisiau bod yn wahanol yn eu bywydau.

Image 2023 06 23 T11 33 26

Yn seiliedig ar gryfder.
Rydym yn cefnogi pobl gyda’u gwydnwch annibyniaeth, ac yn eu helpu i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r adnoddau i gyflawni eu nodau.

Image 2023 06 23 T11 33 26

Cymryd risg cadarnhaol.
Rydym yn grymuso pobl i gael rhyddid i ddewis ac i wneud eu penderfyniadau eu hunain - o sut y maent am gael gofal, i sut y maent yn dymuno treulio eu hamser rhydd.

Image 2023 06 23 T11 33 26

Cyd-gynhyrchiol.
Rydym yn gweithio gyda phobl fel eu bod yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o reoli eu lles a chyflawni eu nodau, a gwneud penderfyniadau am eu gofal.

Image 2023 06 23 T11 33 26

Yn canolbwyntio ar ganlyniadau.
Trwy gydnabod cryfder y person a’i rwydwaith, rydyn ni’n eu cefnogi i allu gwneud y pethau maen nhw’n teimlo sy’n bwysig yn eu bywydau.

Image 2023 06 23 T11 33 26

Cymesur.
Rydym yn darparu’r ymateb lleiaf ymwthiol i risg, yn darparu cymorth mewn modd amserol a dim ond gydag agweddau o fywyd person lle mae angen cymorth.

Image 2023 06 23 T11 33 26

Lle gwych i fyw a gweithio

 Mae Ceredigion yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo.

Gyda 100km o arfordir heb ei ddifetha (gan gynnwys 5 o draethau Baner Las), 18 gwarchodfa natur a golygfeydd prydferth yn ysgubo pob dyffryn afon, fyddwch chi byth yn brin o lefydd i archwilio.

Gyda chyfraddau troseddu cyson isel, mae ein sir hefyd yn un o'r rhai mwyaf diogel yng Nghymru a Lloegr ac mae ganddi ddigon i'w gynnig i deuluoedd.

Mae yna ystod eang o ysgolion rhagorol i ddewis ohonynt, coleg addysg mawr a dwy Brifysgol.

Dim ond £238,910 yw prisiau tai ar gyfartaledd, ac mae dewis da o gartrefi, o eiddo arfordirol ac adeiladau newydd i fythynnod gwledig. Chi biau'r dewis.

Ymunwch ag un o'n timau

Gwyddom y gall darparu cymorth yn gynnar helpu i atal yr angen am wasanaethau mwy arbenigol ac osgoi argyfwng. Mae pobl eisiau mynediad at y gwasanaeth cywir ar yr amser cywir a chael dewis a rheolaeth lle bynnag y bo modd, boed yn hunan-gyfeiriedig, teulu, gofalwr neu gymuned.

Er mwyn cyflawni hyn, mae ein model Llesiant Gydol Oes wedi’i strwythuro fel pedwar maes llesiant, cymorth a gofal cydweithredol, gan gynnwys:

Gwasanaethau Cyswllt Cychwynnol (Clic)
Porth Cymorth Cynnar (Lles a Dysgu Cymunedol)
Porth Gofal (Ymyriad wedi'i Dargedu)
Porth Cynnal (Gwasanaethau Arbenigol)

I archwilio’r rolau gwaith cymdeithasol i blant ac oedolion sydd ar gael ar draws ein timau, ewch i’n tudalen swyddi.