Cwrdd â Rheolwr Corfforaethol Lles Meddyliol

Cwrdd â Rheolwr Corfforaethol Lles Meddyliol

Rhannwch yr erthygl hon

John Bio

Er mwyn i chi allu darganfod mwy am waith y timau sy'n rhan o'r Rhaglen Gydol Oes a Llesiant, rydym yn eich cyflwyno i'r Rheolwyr Corfforaethol sy'n arwain ar y gwaith hwn. Yn yr erthygl hon rydym yn falch o'ch cyflwyno i John Forbes, Rheolwr Corfforaethol Lles Meddyliol.

Allwch chi sôn ychydig amdanoch chi eich hun?

Rwy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers 29 mlynedd. Dechreuais ar fy ngyrfa ym maes gofal cymdeithasol yn Hillingdon (Bwrdeistref Llundain). I ddechrau roeddwn yn weithiwr gofal, gan weithio yn rheng flaen y sector preswyl cyn mynd ati wedyn i reoli nifer o gartrefi.

Ar ôl bod ynghlwm wrth ddarparu gwasanaethau am 9 mlynedd, roeddwn yn teimlo bod angen her newydd arnaf. Euthum ati i ddilyn gradd Meistr mewn gwaith cymdeithasol a dyma lle y cefais fy mhrofiad cyntaf o weithio ym maes iechyd meddwl ac rwyf wedi ymwneud â’r maes hwnnw byth oddi ar hynny. Rwy’n gweithio ym maes gwasanaethau iechyd meddwl ers dros 18 mlynedd. Mae’n faes yr wyf yn teimlo’n angerddol yn ei gylch ac rwy’n sylweddoli y gall iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un ohonom ar unrhyw adeg yn ein bywydau.

Gweithiais fel Gweithiwr Cymdeithasol Awdurdodedig yn Llundain am ddwy flynedd cyn symud i Geredigion yn 2008 i ddod yn Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl cymeradwy. Yn ystod y 12 mlynedd diwethaf rwyf wedi gweithio o fewn timau iechyd meddwl cymunedol, i ddechrau fel gweithiwr cymdeithasol, yna bûm yn uwch ymarferydd ac yna’n Rheolwr Tîm yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Ar lefel bersonol, rwy’n mwynhau cerdded a bywyd yn yr awyr agored. Rwy’n mwynhau teithio a chwarae sboncen, yn enwedig pan wyf yn ennill. Rwy’n gogydd brwd, gan fwynhau arbrofi gyda seigiau newydd. Rwy’n gweini’r seigiau newydd hyn i’m gwesteion. Ychydig a wyddant fy mod yn arbrofi arnynt!

Rwy’n sylweddoli bod synnwyr digrifwch yn gallu bod yn ddefnyddiol, nid yn unig yn fy swydd ond hefyd ym mhob agwedd ar fywyd. Efallai fod y rhai sy’n fy adnabod yn dda wedi profi blas o’m synnwyr digrifwch!

Allwch chi sôn am eich swydd a gwaith eich tîm?

Rwyf wedi bod yn ffodus o gael y cyfle hwn i weithio fel Rheolwr Corfforaethol yn y gwasanaeth Llesiant Meddwl. Mae’r gwasanaeth Llesiant Meddwl ynghyd â gofal wedi’i gynllunio, gofal estynedig, camddefnyddio sylweddau a diogelu yn rhan o wasanaeth gydol oes Porth Cynnal. Bydd gwasanaeth Porth Cynnal yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau arbenigol a fydd wedi’u seilio ar angen ac nid ar oedran.

Ar hyn o bryd, tîm eithaf bach o staff gofal cymdeithasol sydd gennyf. Rwy’n disgwyl y bydd y tîm hwn yn tyfu gydag amser. Rydym eisoes wedi dechrau ar y siwrnai o gynnig gwasanaeth gydol oes. Yng ngogledd y sir rydym yn awr yn gweithio gydag unigolion a chanddynt anghenion cymhleth o fewn Seiciatreg yr Henoed. Mae’r gwasanaeth Llesiant Meddwl yn gobeithio gweithio’n agos gyda meysydd gwasanaeth eraill o fewn Porth Cynnal ac o fewn y model Gydol Oes a Llesiant.

O ran fy swydd fy hun, y peth cyntaf yr wyf wedi canolbwyntio arno yw strwythurau staffio. Rwy’n gobeithio aildrefnu fy nhîm fel y gallwn fwrw ymlaen â’r model gwasanaeth newydd a gweithio gydag unigolion y mae angen gwasanaethau arbenigol arnynt, waeth beth fo’u hoed. Rwy’n mwynhau cynllunio’r manylion a’r trefniadau ar gyfer lleoliad y gwasanaethau a gweithio gyda rheolwyr corfforaethol eraill a’u timau.

Un o amcanion y rhaglen Llesiant Gydol Oes yw gwreiddio Arwyddion Diogelwch – beth mae hyn yn ei olygu?

Mae’r fframwaith Arwyddion Diogelwch a Llesiant yn offeryn defnyddiol wrth geisio canolbwyntio’r meddwl ar asesu a chynllunio. Yn rhy aml o lawer, mae hi’n hawdd cwympo i’r fagl o asesu’r unigolyn o safbwynt ein proffesiwn ni o ran beth y teimlwn ni ddylai ddigwydd. Mae’r fframwaith arwyddion diogelwch a llesiant yn mynd law yn llaw â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 drwy roi pwyslais ar y cwestiwn “beth sy’n bwysig”, hynny yw beth sy’n bwysig i’r unigolyn. Mae’n ddefnyddiol o ran gallu dadansoddi problemau fel tîm a phenderfynu gyda’n gilydd beth sydd yn ein poeni, beth sy’n gweithio’n dda a beth ddylai ddigwydd. Mae’n fodel sy’n seiliedig ar gryfderau ac mae’n rhoi’r unigolyn yng nghanol y broses. Mae wedi ei ddefnyddio mewn cyfarfodydd diogelu ac o fewn sefyllfaoedd amlasiantaethol yn y gwasanaeth Llesiant Meddwl ac mae’n ddefnyddiol wrth reoli peryglon a phenderfynu pa gamau y mae angen eu cymryd a thrwy ba asiantaethau y gellir lliniaru ar y peryglon hyn.

I chi, beth yw’r peth gorau ynglŷn â gweithio i Gyngor Sir Ceredigion?

Yr hyn a’m trawodd wedi i mi ddod i Geredigion o gyngor mawr yn Llundain Fwyaf oedd pa mor fach ydym ni fel sefydliad mewn cymhariaeth. Fodd bynnag, mae manteision anferth i fod yn gyngor cymharol fach, o ran rhwydweithio a gwybod at bwy i fynd, pwy sydd â’r arbenigedd, derbyn atebion amserol, bod â lefel uchel o ymrwymiad a thynnu gyda’n gilydd er mwyn cael canlyniadau cadarnhaol. Mae’r pethau hyn i gyd yn fanteisiol i’r model newydd.

Peth arall sy’n braf wrth weithio gyda’r cyngor hwn yw’r ardal lle’r wyf yn byw ac yn gweithio. Pan symudais yma, cymerodd flwyddyn i mi sylweddoli nad oeddwn ar fy ngwyliau – roedd y golygfeydd yn wych, roedd yma ddigon o lefydd hyfryd i gerdded ynddynt, heb anghofio’r diwylliant cyfoethog a’r hanes sydd wrth ein traed.

Dywedwch rywbeth nad ydym eisoes yn ei wybod amdanoch…..

Rwy’n gefnogwr brwd i dîm pêl-droed Chelsea, rwy’n mwynhau canu’r piano a gwneud seidr cartref. Yn ddiweddar, rwyf wedi dechrau ymddiddori mewn ffowls. Aelodau diweddaraf y teulu yw dau dwrci ifanc – un gwrywaidd ac un fenywaidd. Mae’r ddau hyn yn aml yn tarfu ar fy nghyfarfodydd Teams!!