​​Diwrnod  Gwaith Cymdeithasol y Byd 2023

​​Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd 2023

Rhannwch yr erthygl hon

World Social Work Day

Cynhelir Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd ar 21 Mawrth 2023. Y thema eleni yw 'Parchu amrywiaeth trwy weithredu cymdeithasol ar y cyd'. Mae Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd yn gyfle i ddathlu ac amlygu cyflawniadau'r proffesiwn gwaith cymdeithasol ac i ddiolch a dangos gwerthfawrogiad am waith caled ac ymroddiad yr holl weithwyr cymdeithasol ledled y byd.

Dathlu Gweithwyr Cymdeithasol Tîm Ceredigion!

Mae ein gweithwyr cymdeithasol yn gwneud gwaith eithriadol ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, gan ddangos tosturi ac empathi bob dydd. Mae gennym amrywiaeth o rolau gwaith cymdeithasol yng Ngheredigion. Maent yn cefnogi oedolion, plant a phobl ifanc ar draws ystod o feysydd arbenigol. Mae pob un yn darparu cefnogaeth i unigolion a theuluoedd trwy'r amseroedd mwyaf heriol, gan ddiogelu'r rhai sy'n agored i niwed, a sicrhau bod pawb yn derbyn y lefel gywir o ymyrraeth i'w grymuso i fyw bywydau hapus.

Mae diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd yn dod o fewn Wythnos Gwaith Cymdeithasol, cyfres ehangach o ddigwyddiadau a gynlluniwyd i godi ymwybyddiaeth o'r cyfraniad hanfodol a wneir gan weithwyr cymdeithasol. I gydnabod hyn byddwn yn dathlu ac yn cydnabod gwaith arbennig gweithwyr cymdeithasol Tîm Ceredigion trwy amrywiol sianeli trwy gydol yr wythnos! Cadwch olwg ar Ceri Net, Facebook a LinkedIn!

Neges gan ein Prif Weithredwr

Daw ein neges gyntaf o werthfawrogiad ar ffurf neges fideo gan ein Prif Weithredwr: