Cyfarfod â Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Uniongyrchol, Nerys Lewis

Cyfarfod â Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Uniongyrchol, Nerys Lewis

Rhannwch yr erthygl hon

Nerys Bio

Mae'r Rhaglen Gydol Oes a Llesiant yn trawsnewid ein darpariaeth gofal cymdeithasol i fod yn ddarpariaeth cymorth gynnar, atal ac arbenigol gydol oes. Er mwyn i chi allu darganfod mwy am waith y timau sy'n rhan o'r trawsnewidiad arloesol hwn, rydym yn eich cyflwyno i'r Rheolwyr Corfforaethol sy'n arwain ar y gwaith hwn.

Yn yr erthygl hon rydym yn falch o'ch cyflwyno i Nerys Lewis, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Uniongyrchol. Darllenwch ymlaen a darganfod ychydig mwy am Nerys, ei rôl a gwaith ei thîm.

A ydych chi'n gallu sôn wrthym am eich rôl ac am waith eich tîm?

Mae'r tîm Gwasanaethau Uniongyrchol yn darparu gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i boblogaeth fwyaf agored i niwed Ceredigion. Mae fy rôl i yn eang ac yn amrywiol, ac mae gofyn cydweithio gyda chydweithwyr ar draws yr awdurdod wrth ddarparu gwasanaethau trwy bob oed ar draws y Sir.

Mae'r Gwasanaeth Maeth yn elfen ganolog o ddarparu cartrefi diogel i'r Plant sy'n derbyn Gofal yng Ngheredigion. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i amlygu'r ffaith ein bod wastad yn chwilio am ofalwyr maeth, ac os yw hyn yn rhywbeth y gallai fod gennych chi ddiddordeb ynddo neu rywun yr ydych yn eu hadnabod efallai, cysylltwch â'r tîm!

Mae'r Gwasanaeth Dydd yn darparu gofal a chymorth i bobl ifanc sydd ag Anableddau Dysgu gan gynnwys o'r oedran pontio i oedolion hŷn sydd ag Anableddau Dysgu a'r rhai heb Anableddau Dysgu.

Mae gennym bum cartref gofal preswyl sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor, a leolir ar draws y Sir. Mae'r ddarpariaeth hon yn darparu amrediad o ofal preswyl 24/7 parhaol a dros dro, ynghyd â gofal seibiant, i oedolion. Yn ogystal, rydw i'n darparu cymorth, cyngor ac arweiniad i ddarpariaeth gofal preswyl y sector preifat yn y sir.

Rydym yn ffodus iawn bod gennym dîm o staff ymroddedig, hyblyg a medrus sydd wastad yn fodlon mynd yr ail filltir.

Soniwch wrthym amdanoch chi…

Rydw i'n hanu o ‘Ddyffryn Aeron’ a phentref Felin-fach yn wreiddiol, ac roeddwn yn ffodus ac yn ddigon breintiedig i fod yn un o 'Blant y Board', a oedd yn golygu bod un o aelodau fy nheulu yn gweithio yn y ffatri laeth (MMB / Dairy Crest ar yr adeg honno).

Mynychais Ysgol Gynradd Felin-fach a fi oedd y plentyn cyntaf o'r ysgol honno i fynd yn groes i'r arfer wrth symud ymlaen i Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan.

Rydw i'n siŵr y byddai nifer ohonoch yn barnu bod Felin-fach yn bentref tawel a chyffredin, ond na.....roedd fy nyddiadur trwy gydol fy mhlentyndod a'm hieuenctid yn hynod o brysur, oherwydd yr oeddwn yn aelod o CFfI Felin-fach, Adran ac Aelwyd yr Urdd, Côr Dwynant, Clwb Drama, Ysgol Sul Ystrad, Cwmni Ieuenctid Ceredigion. Roeddwn yn cymryd rhan yn y Panto Nadolig Cymraeg hefyd ac yn aelod o gast Bontlwyd, Opera Sebon Ddyddiol ar Radio Ceredigion. Bûm yn ffodus i gymryd rhan mewn amrediad o gynyrchiadau hefyd gyda Brith Gof a Chwmni Theatr Ieuenctid Dyfed i enwi rhai yn unig.

Yn anffodus, pan oeddwn yn yr ysgol uwchradd, dioddefais rywbeth a oedd yn debyg i ME, a effeithiodd ar fy mhenderfyniadau cynharach ynghylch llwybrau addysg bellach, ond fel y mae sawl un yn dweud, 'mae rhai pethau'n digwydd am reswm'. Cyn mynd yn sâl, roeddwn wedi rhoi fy mryd ar fynd i Gaerdydd, ond ni ddigwyddodd hynny, ac erbyn hyn, nid ydw i wedi mentro o brydferthwch Ceredigion. Cwblheais fy addysg bellach yng Ngholeg Ceredigion cyn symud ymlaen gyda fy addysg uwch gartref a thrwy gyfrwng cyfleoedd hyfforddiant a datblygu gyda'r awdurdod. Rydw i'n grediniol nad ydym fyth yn rhoi'r gorau i ddysgu, felly mae parhau gyda hyfforddiant a'm datblygiad unigol i wastad yn rhywbeth amlwg yn fy mywyd.

Dechreuais weithio i Gyngor Sir Ceredigion yn 2004 ar gontract 3 mis dros dro yn y Tîm Economaidd. O'r fan hon, symudais ymlaen i amrediad o wahanol rolau Rheoli a chydlynu cyn symud drosodd i'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2015. Rydw i wedi bod yn ymwneud â Gwasanaethau Uniongyrchol er 2016.

Rydw i'n briod, rydw i'n fam i efeilliaid y maent bron yn 20 oed, ynghyd â phlentyn 8 oed direidus. Byddaf yn treulio rhan fwyaf fy amser sbâr gyda'r plant, ond ni fyddwn yn dymuno newid hyn o gwbl! Rydw i wrth fy modd allan yn awyr iach Ceredigion, ac rydw i'n hoff iawn o bob math o gerddoriaeth gan gynnwys cerddoriaeth Glasurol, Jazz ac Opera, ac nid oes unrhyw beth gwell na chael noson deuluol yn canu o gwmpas y piano!

Pa rôl fydd eich tîm yn ei gyflawni yn y model trwy bob oed a lles?

Mae rhaglen Trwy bob Oed a Lles yn gyfle cyffrous i ni fel tîm adolygu'r hyn yr ydym yn ei ddarparu ar hyn o bryd a sut y bydd angen i hwn ddatblygu a chael ei ad-drefnu yn y dyfodol. Mae Covid wedi golygu y bu'n rhaid i ni weithio mewn ffordd wahanol a byddwn yn dysgu cryn dipyn o'r cyfnod hwn. Fel rhan o'r model Trwy bob Oed, rydym yn gwybod bod meysydd y bydd angen i ni eu datblygu er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni anghenion poblogaeth Ceredigion ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Bydd cydweithio ar draws y model yn caniatáu i ni adolygu a chynllunio ar gyfer darpariaeth uniongyrchol ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir.

Pa mor bwysig yw Arwyddion Diogelwch?

Ar draws y gwasanaeth, ceir sawl maes yr ydym yn eu hadolygu ar hyn o bryd ac yn eu newid ar sail gofynion swyddogaethau rheoliadol. Mae fframwaith Arwyddion Diogelwch a Lles wastad yn cael lle amlwg yn ein hystyriaethau a bydd yn datblygu yn ffordd o weithio ganolog wrth i ni symud trwy gyfnod pontio y rhaglen.

Beth yw'r peth mwyaf gwerth chweil am waith eich tîm?

Yr elfen fwyaf gwerth chweil yw'r gallu i wneud gwahaniaeth i fywyd unigolyn, waeth beth yw eu hoedran. Yn ogystal, y fraint i ni o gael bod yn rhan o daith bywyd pob unigolyn o'r adeg pan fyddant yn ifanc ar ddechrau eu bywydau ac ymlaen i'r genhedlaeth hŷn wrth iddynt ddynesu at ddiwedd eu hoes.

Dywedwch rywbeth wrthym amdanoch nad oeddem yn ei wybod...

Rydw i wedi cerdded llwybr Arfordir Ceredigion yn ei gyfanrwydd. Roeddwn wedi cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Diogelwch Beiciau, gan gynrychioli Dyfed, a deuthum yn 2il ac yn 3ydd yng Nghymru. Ac mae gen i berthynas ddiddorol gyda dŵr....pan oeddwn yn 4 oed, euthum i lawr y sleid ym mhwll nofio Aberaeron heb unrhyw rwymynnau breichiau ar fy mhen fy hun ac roedd yr achubwr wedi fy achub rhag boddi. Yn nes ymlaen yn ystod fy mywyd, ar y ffordd gartref ar ôl bod yn gweithio yn y Sioe Frenhinol, bûm i a chydweithiwr yn yr awdurdod lleol yn ffodus iawn wrth groesi dwy afon wyllt (a fesurwyd gan lefel y dŵr yn erbyn ei hesgidiau glaw gyda smotiau crynion arnynt) ar fynydd Abergwesyn yn fy Polo GTTdi bach. Yn fuan ar ôl hynny, roedd gyrrwr mewn Landrofer wedi methu croesi....ond llwyddon ni, ond nid ydw i'n siŵr sut. Ac wrth i ni symud ymlaen gyda'r model trwy bob oed....ie, fi oedd ‘Dwmplen Malwoden’ yng nghynhyrchiad Mudiad Meithrin yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion, 1992.